Les Trois Puits Congénies

Rhai manylion amdanom ni.


Hen dy ynghanol pentref Congénies yw 'Les Trois Puits' ('Y Tri Ffynnon' yn Gymraeg) ac mae dros y ffordd i hen Dy Cwrdd y Crynwyr. Mi gafodd y ty ei addasu ar ddiwedd yr 20fed ganrif gan ddefnyddio hen weithdai a sgubor i greu y ty presennol. Yn y gweithdai yma mi gafodd casgenni eu gwneud ar gyfer y gwin lleol (diolch i ddigonedd o ddwr ar y safle).





Y ty yma oedd y warws cyntaf yn y pentref ar gyfer gwerthiant gwîn. Roedd hyn cyn datblygiad system modern y 'Caves Cooperatives' sy'n gyffredin y dyddiau yma ym mhentrefi'r fro. Wrth gefn y ty mae gardd preifat. Dros y blynyddoedd mi gafodd dwr y ffynnonau ei ddefnyddio i greu lle gwyrdd hyfryd efo llawer o blanhigion ac adar diddorol ac sy'n eithaf angyffredin yn yr ardal yma.

'Chambres d'hôtes.' Gwely a brecwast.


Yn ystod y ganrif diwethaf ac yn ein hoes ni mi gafodd y ty ei adnewyddu, ac yn awr gyda perchnogion crynwyr newydd mae westy o safon uchel. Y mae na dair stafell dwbwl ar gael, pob un gyda chawod a thoiled. Brecwast cyfandirol ydy'r brecwast cyffredin ond mae'n bosibl archebu brecwast gwahanol a chinio ymlaen llaw os oes eisiau. Hefyd rydym ni'n gallu coginio ar gyfer deiets arbennig os cawn rybudd o flaen.





Rydym ni'n croesawu grwpiau bach, teuluoedd ac unigolion.

Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Iseldireg ydy ieithoedd ein teulu ni.






La Petite Maison